Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb

Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2020, sy’n edrych ar sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i roi diwedd ar gysgu allan yng Nghymru.

 

Mae’r gwaith hwn yn rhan o ail gam yr adolygiad gan Archwilio Cymru o weithio mewn partneriaeth, ac mae’n dilyn ei adroddiad yn bwrw golwg ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019.

Yn nhri mis cyntaf y pandemig COVID-19, fe gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gynghorau i ailgartrefu dros 800 o bobl a oedd yn cysgu allan neu mewn perygl o ddigartrefedd. Un o ganlyniadau annisgwyl y cyfnod clo yw bod nifer y bobl sy’n cysgu allan wedi lleihau’n sylweddol.

 

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi blaenoriaethu digartrefedd a chysgu allan yn ystod y Senedd hon, gan gymryd tystiolaeth a llunio adroddiadau manwl ag argymhellion i fynd i’r afael a’r materion cysylltiedig. Bydd y Pwyllgor yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y mater pwysig hwn dros y misoedd nesaf, a bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio gwaith craffu.

 

Nodwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Medi 2020.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/08/2020