Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol

Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar farchnad fewnol y DU ar 16 Gorffennaf, gan amlinellu’r cynigion i ymgorffori Ymrwymiad Mynediad i’r Farchnad newydd yn y gyfraith ar ddiwedd y cyfnod pontio ym mis Rhagfyr 2020.

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y cynigion a’u goblygiadau cyfansoddiadol fel rhan o’u gwaith craffu parhaus ar faterion sy’n ymwneud ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Er mwyn osgoi dyblygu, penderfynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau beidio â gwneud unrhyw waith ffurfiol ar y cynigion ond i gadw golwg ar y cynnydd a wnaed.

 

Ar 16 Gorffennaf 2020, ysgrifennodd (PDF,123KB) [Saesneg yn unig] y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau  ynghylch lansio Papur Gwyn ac ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol.

 

Ymatebodd (PDF, 164KB) Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 27 Gorffennaf 2020.

 

Ymatebodd (PDF,271KB) Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 30 Gorffennaf 2020.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr ohebiaeth yn ei gyfarfod ar 3 Awst 2020 ac ymatebodd (PDF, 221KB) y Cadeirydd ar 7 Awst 2020.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/08/2020

Dogfennau