P-05-997 Gadewch i bobl Cymru ddefnyddio ap Tracio ac Olrhain yr Almaen! Allwn ni ddim aros am ap o Loegr!
P-05-997 Gadewch i bobl Cymru ddefnyddio ap Tracio ac
Olrhain yr Almaen! Allwn ni ddim aros am ap o Loegr!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Thomas Rex, ar ôl casglu cyfanswm o 62 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Llywodraeth y DU wedi gwastraffu £12 miliwn yn dablygu ap Tracio ac Olrhain ac
mae ymhell o fod yn barod.
Yn
ystod sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog, cyfeiriodd Syr Kier Starmer at ap
sy’n barod yn yr Almaen ac sy’n cael ei ddefnyddio eisoes. Rydym yn dal yn rhan
o’r UE a dylai’r ap fodloni gofynion GDPR.
Bydd
yr ap yn caniatáu i Gymru reoli Covid mewn ffordd sy’n targedu’r haint.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd bod ap olrhain Covid-19 wedi’i lansio ar 24
Medi, ac felly ei bod yn debygol nad oes llawer y gellid ei gyflawni drwy wneud
rhagor o ran y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2020