P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

Wedi'i gwblhau

 

P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Arron Glyn Bevan-John, ar ôl casglu cyfanswm o 2,726 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​​Yng Nghymru, ni chaniateir i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed - oni bai eu bod yn ymatal rhag cael rhyw am dri mis. Hoffem ymgyrchu dros 'Waed Heb Ragfarn' gan roi rhyddid i bobl roi gwaed. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y cyfnod gohirio tri mis, a chyflwyno dull personol sy'n seiliedig ar risg i asesu ymddygiadau rhywiol, yn hytrach na phroses or-syml lle caiff pobl eu grwpio gyda'i gilydd ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol gan eu gwahardd rhag rhoi gwaed. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i roi gwaed, ac sy'n gallu gwneud hynny'n ddiogel, yn gallu.

 

Mae'n fater iechyd cyhoeddus ac yn fater anghydraddoldeb. Nid oes gennym ddigon o waed yn ein banciau gwaed ond eto rydym yn dewis gwahaniaethu yn erbyn grŵp cyfan o bobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Dim ond un ateb sydd i brinder gwaed yn genedlaethol; dileu'r cyfnod gohirio a rhoi'r gorau i wahaniaethu yn erbyn dynion hoyw a deurywiol

 

person on chair donating blood

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a'r cyhoeddiad a wnaed ar 14 Rhagfyr y bydd asesiad mwy unigol o roddwyr yn cael ei gyflwyno yn haf 2021, gyda'r canlyniad y bydd dynion LGBTQ+ yn gallu rhoi gwaed. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd ar y llwyddiant a gafwyd trwy ei ymgyrch ac i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gwyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Gwelliant

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/08/2020