P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rosalind Rhodes, ar ôl casglu 39 llofnod ar-lein a 42 ar bapur, sef cyfanswm o 81 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae llawer o Gymry yn ofni am bobl yn dod i mewn a allai ddod â Coronafeirws. Mae’n rhaid i’r DVLA neu gynghorau lleol ddarparu’r sticer neu'r cerdyn dwyieithog hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Sticer fel hyn:

 

RWY’N BYW YNG NGHYMRU

LL10 XXX

 

Mae’n amlwg i'r heddlu ei weld ond gellid cael gwared arno’n hawdd pe bai angen.

 

A car Motorway

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn glir nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r hyn a gynigiwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi mater dilys.

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r mater ehangach a godwyd gan y deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyfor Meirionnydd
  • Canolbarth a Gollewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2020