P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor

P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor

Wedi'i gwblhau

 

P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Stuart, ar ôl casglu cyfanswm o 964 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Y nod yw annog y Llywodraeth i ailystyried y penderfyniad i gau campfeydd a chanolfannau hamdden, ac i ddod i gytundeb i’w hailagor. Mae nifer o bobl yn defnyddio’r cyfleusterau hyn i hybu eu hiechyd meddwl a’u lles a byddai’n fuddiol eu hailagor gyda chyfyngiadau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae rhai prosesau y gellid eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau hyn yn cadw at bolisïau cadw pellter cymdeithasol a pholisïau hylendid. Byddai modd gwneud hynny mewn ffordd fwy diogel ac mewn ffordd sy’n haws ei rheoli na’r hyn sy’n digwydd yn y siopau sydd ar agor ar hyn o bryd ac yn sicr yn haws i’w rheoli na’r hyn sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer siopau ‘nad ydynt yn hanfodol’.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID, a gan fod campfeydd dan do bellach wedi cael caniatâd i ailagor a bod y Dirprwy Weinidog wedi darparu gwybodaeth am y cyngor gwyddonol a ddefnyddir i lywio penderfyniadau, cytunwyd i gau’r deisebau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020