Ailarchwilio cofebau mewn mannau cyhoeddus

Ailarchwilio cofebau mewn mannau cyhoeddus

Inquiry5

 

Cefndir

 

Ym mis Mehefin 2020, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal ymchwiliad i edrych ar y ffordd y mae ffigyrau hanesyddol yn cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus arwyddocaol yng Nghymru.  Wrth edrych ar y mater hwn roedd y Pwyllgor yn awyddus i archwilio sut mae cymdeithas yn penderfynu pwy sy’n cael eu coffáu; pa egwyddorion y gellid eu defnyddio i benderfynu ar weithredoedd coffáu; a’r broses y gellid, neu y dylid, ei dilyn os yw pobl am i enghreifftiau unigol gael eu tynnu i lawr neu eu newid.

 

Adroddiad  

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus (PDF, 2.11MB) ar 25 Mawrth 2021.

 

Edrychodd yr adroddiad ar y ddadl ynghylch y gweithredoedd coffáu presennol yng Nghymru, ystyriodd sut y gellir cefnogi cymunedau ac awdurdodau cyhoeddus yn well wrth ymdrin ag achosion o gerfluniau neu goffáu dadleuol a chynnig syniadau ynghylch sut rydym yn coffáu yn y dyfodol.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2020

Dogfennau

Papurau cefndir