P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â'u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â'u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

Wedi'i gwblhau

 

P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â’u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan King, ar ôl casglu cyfanswm o 118 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae’r cyfyngiadau symud bellach wedi bod arnom ers dau fis. Mae’r cyfnod hwn wedi bod hyd yn oed yn hwy i’r rhai a ddewisodd hunan-ynysu yn gynnar. Gydag agor canolfannau garddio yn ddiweddar, dylem nawr fod yn trafod ailagor siopau barbwr a siopau trin gwallt, cyn belled â bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu cymryd o ddifrif.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae ymddangosiad wastad wedi bod yn bwysig iawn, ond mae’n bwysicach fyth yn yr oes sydd ohoni. Nid yw pobl yn teimlo’n dda pan nad ydyn nhw’n edrych yn dda, a chan fod pawb yn gorfod aros i mewn, y peth lleiaf i ofyn amdano yw ein bod yn teimlo'n dda amdanom ni ein hunain. Mae materion iechyd meddwl wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac un rheswm pam yw’r angen cynyddol i edrych yn dda er mwyn teimlo'n dda, a chyda'r cyfyngiadau symud presennol mae materion iechyd meddwl yn sicr o fod yn fwy cyffredin.

 

Dylai’r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn y lleoliadau hyn gynnwys apwyntiad yn unig, a dim ond caniatáu nifer gyfyngedig o staff bob y dydd. Dylai fod nifer gyfyngedig o bobl i mewn ar unrhyw adeg, ac ni ddylid caniatau ymgynnull na chiwio y tu allan. Dylai'r holl offer a chadeiriau gael eu glanhau'n drylwyr rhwng pob cwsmer, dylid gwisgo menyg a masgiau, a dylid cadw cadeiriau ddwy fetr oddi wrth ei gilydd. Gellid rhoi unrhyw fesurau eraill ar waith i sicrhau diogelwch, ond mae’n rhaid rhoi stop ar y pennau blêr yma.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni'r ffaith bod y cyfyngiadau ar farbwyr a salonau trin gwallt wedi cael eu codi ar 13 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07.07.20.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/06/2020