Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol

Cyflwynwyd Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 20 Mai 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 2 Mehefin 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;