P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Wedi'i gwblhau

 

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Leigh-Robinson, ar ôl casglu cyfanswm o 52 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​​ Ar ôl gweld beth roddodd y GIG fi a fy ngwraig drwyddo pan oedd hi'n colli plentyn drwy gamesgoriad: cael ein hanfon i gael sgan gyda darpar famau a chael gwybod, 'Rydych chi'n cael camesgoriad, ewch adref', a dyna ni. Roedd yn rhaid i ni ddod yn ôl ychydig ddyddiau wedyn ac eistedd mewn ystafell gyda phobl a oedd yn dod allan â'u lluniau o'r sgan. Doedd hynny ddim yn deg. Mae angen ward ar wahan.

Gwybodaeth Ychwanegol

​Pan wnaethom ni ofyn a oedd rhywle arall y gallem ni aros cawsom wybod nad oedd unrhyw le. Cafodd hyn effaith niweidiol enfawr ar ein hiechyd meddwl. Sut oedden nhw'n gwybod ein bod ni'n ddigon cryf i adael yr ysbyty? Doedden nhw ddim yn gwybod. Mae angen i hynny newid.

 

A Hospital corridor and a hospital bed

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/05/2020