P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog
P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth
ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored
i niwed a staff sy’n feichiog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
David Adam Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 174 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’n bosibl na fydd
staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed, sydd angen cael eu diogelu neu sydd
wedi bod yn feichiog am gyfnod o dros 28 wythnos yn elwa ar yr un cymorth
ariannol na’r un mesurau diogelu ag a ddarperir gan fyrddau iechyd i staff
amser llawn y GIG. Mae rhai o staff cronfa GIG Cymru, fel cynorthwywyr iechyd,
nyrsys a bydwragedd ac eraill, wedi bod yn gweithio yn y GIG ers blynyddoedd, a
dyma yw prif ffynhonnell eu hincwm. Mae’n bosibl y bydd staff cronfa sy’n
agored i niwed neu’n feichiog yn wynebu dewis rhwng gweithio neu beidio ag
ennill cyflog, a hynny ar yr amod bod gwaith amgen yn cael ei gynnig iddynt
beth bynnag.
Os gwelwch yn dda, cefnogwch staff cronfa’r GIG.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Deddf Cydraddoldeb
2010 yn gwarchod pobl agored i niwed rhag gwahaniaethu (o dan y pennawd
anabledd), yn ogystal â phobl sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth.
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, yn ogystal â Rheoliadau
Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, mae’n rhaid cynnal asesiadau risg
mewn perthynas â staff cronfa’r GIG mewn perthynas ag argyfwng Covid-19. Mewn
sefyllfaoedd lle nad oes modd i’r staff cronfa dan sylw weithio, neu lle na
ellir cynnig gwaith arall iddynt, mae’n bosibl y bydd y staff hynny yn cael eu
gadael heb incwm.
Yn y cyfnod digynsail hwn, dylai Senedd Cymru, GIG Cymru a’r byrddau iechyd
perthnasol ymestyn cymorth ariannol a mesurau diogelu i staff cronfa’r GIG. Ar
hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd staff cronfa’r GIG yng Nghymru yn wynebu dewis
rhwng gweithio neu aros gartref heb gymorth ariannol.
https://www.rcn.org.uk/get-help/rcn-advice/bank-workers
https://www.bristolpost.co.uk/news/bristol-news/nhs-southmead-hospital-furlough-coronavirus-4082655
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/06/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2020