Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus

Inquiry5

 

Mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyletswydd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i archwilio a pharatoi adroddiad yn ystyried i ba raddau y mae’r cyrff cyhoeddus perthnasol wedi gweithredu’n unol â’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd i gyflawni’r ‘amcanion llesiant’.

 

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei Adroddiad statudol cyntaf mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a hynny’n unol â’r  gofyniad iddo fod ar gael 12 mis cyn unrhyw etholiad yn ymwneud â’r Senedd.   

 

Mae gofyniad tebyg ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a chyhoeddwyd ei hadroddiad cyntaf hithau ym mis Mai 2020.

 

Mewn cyfarfod o Fforwm y Cadeiryddion ym mis Mawrth 2020, cytunwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus arwain y gwaith o archwilio’r adroddiadau hyn.

 

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mai 2020 chytunodd i gynnal archwiliad ehangach o’r adroddiadau yn ystod gweddill y Senedd yma.

 

Cynhaliwyd digwyddiad (rhithwir) i randdeiliaid ar 12 Hydref 2020 pan drafododd dros 50 o gyfranogwyr y Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn Llwyddiannus a'r heriau o sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.

 

Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar 12 Hydref a ddaeth i ben ar 27 Tachwedd 2020.

 

Cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021.

 

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar 17 Mawrth 2021 a chynhaliwyd Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021.

 

Ystyrir yr ymatebion i Adroddiad y Pwyllgor gan y Pwyllgor olynol yn y Chweched Senedd.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Sesiwn Dystiolaeth

Sesiwn Dystiolaeth

Sesiwn Dystiolaeth

Panel 1:

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Panel 2:

Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF Cymru)

Sustrans Cymru

Y Sefydliad Tai Siartredig

Dydd Llun 14 Rhagfyr 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiynau Dystiolaeth  

Gwylio Sesiynau Dystiolaeth ar Senedd TV

Panel 1:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre

 

Panel 2:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda*

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys*

* Methu â bod yn bresennol oherwydd y pandemig COVID-19

Dydd Llun 11 Ionawr 2021

Darllen trawsgrifiad o Sesiynau Dystiolaeth  

Gwylio Sesiynau Dystiolaeth ar Senedd TV

Panel 1:

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Sir Ynys Môn

 

Panel 2:

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir Powys

Dydd Llun 18 Ionawr 2021

Darllen trawsgrifiad o Sesiynau Dystiolaeth  

Gwylio Sesiynau Dystiolaeth ar Senedd TV

Panel 1:

Llyfrgell Genedlaethol

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

 

Panel 2:

Cyfoeth Naturiol Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Llun 25 Ionawr 2021

Darllen trawsgrifiad o Sesiynau Dystiolaeth  

Gwylio Sesiynau Dystiolaeth ar Senedd TV

Panel 1: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Panel 2: Llywodraeth Cymru

Dydd Llun 1 Chwefror 2021

Darllen trawsgrifiad o Sesiynau Dystiolaeth  

Gwylio Sesiynau Dystiolaeth ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/04/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau