P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr

P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr – Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cyngor Tref St Clears, ar ôl casglu 562 o lofnodion ar lein a 701 ar bapur, sef cyfanswm o 1,263 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i argymell Sanclêr i Network Rail fel lleoliad ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yng Nghymru. Bydd Sanclêr a'r cymunedau cyfagos yn elwa'n fawr o ailagor yr orsaf reilffordd, bydd yr orsaf yn cau'r bwlch yn llinell Gorllewin Cymru a galluogi mwy o bobl i ddefnyddio'r trên. Credwn y byddai gorsaf yn Sanclêr yn dod â llawer o fuddion gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, lleihau ôl troed carbon a mwy o dwristiaeth yn yr ardal.

 

A person standing on a train platform

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/06/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Oherwydd y ffaith mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y mater hwn fel rhan o’i Chronfa Gorsafoedd Newydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi’r cais am orsaf newydd yn Sanclêr, gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb. Hefyd, cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn ac i fynegi eu siom na fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng Nghymru.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/06/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin a Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Caonlbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2020