Ymrin ag offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 – 25 Mawrth 2020 i 17 Ebrill 2020
Ymrin ag offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 – 25 Mawrth 2020 i 17 Ebrill 2020
Mae Rheolau
Sefydlog 21.2 a 21.3 yn darparu mai'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (DCC) yw'r pwyllgor cyfrifol y
mae'n ofynnol iddo drafod a chyflwyno adroddiad ar bwyntiau technegol mewn
offerynnau statudol (OSau) (e.e. gwaith drafftio diffygiol), a rhai pwyntiau
rhinwedd hefyd, pan fo'n dewis gwneud hynny, (e.e. budd gwleidyddol a/neu fudd
y cyhoedd).
Ar 27 Mawrth a 3
Ebrill 2020, cytunodd y
Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 34.22(i), i ddatgymhwyso Rheolau
Sefydlog 21.2 a 21.3 yn eu cyfanrwydd a rhoi proses dros dro ar waith ar gyfer
ymdrin ag OSau. Roedd y penderfyniadau
hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau a gyflwynwyd i ymateb i Covid-19, argyfwng
iechyd y cyhoedd sy’n datblygu’n gyflym.
Roedd y broses
hon ar waith rhwng 25 Mawrth 2020 a 17 Ebrill 2020.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2020
Dogfennau