COVID-19

COVID-19

Yn ystod y Chweched Senedd (Mai 2021 ymlaen) cynhaliwyd yr gweithgareddau canlynol gan Bwyllgorau'r Senedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â COVID-19

 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am waith y Senedd sy'n ymwneud â COVID-19 drwy archwilio Pwnc COVID-19 ar ein gwefan.

 

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn archwilio effaith pandemig COVID-19 ar bob maes o fewn ei gylch gwaith.

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn gwneud gwaith ar effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Y Pwyllgor Deisebau

Mae'r Pwyllgor Deisebau yn delio â nifer o ddeisebau sy'n ymwneud â COVID-19.

 

Comisiwn y Senedd

Mae Comisiwn y Senedd yn ystyried yn rheolaidd oblygiadau COVID-19 ar Staff Comisiwn y Senedd a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i Aelodau'r Senedd

 

 

Y Bumed Senedd (Ebrill 2020 i Ebrill 2021)

Yn dilyn datgan Argyfwng Iechyd Cyhoeddus COVID-19 yng Ngwanwyn 2020, bu nifer o Bwyllgorau’n ystyried agwedd Llywodraeth Cymru at yr ymateb oedd yn ofynnol er mwyn mynd i’r afael â goblygiadau pandemig COVID-19.

 

Ar ôl atal busnes dros dro, ailddechreuodd gweithgareddau’r pwyllgorau yr wythnos yn dechrau 27 Ebrill 2020. Mae dadansoddiad o weithgareddau'r pwyllgorau isod.

 

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Roedd rhaglen y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Roedd gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn canolbwyntio ar effaith y sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch.

 

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Roedd gwaith y Pwyllgor Diwylliant, Cymraeg a Chyfathrebu yn canolbwyntio ar effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon.

 

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Roedd gwaith y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar faterion yn ymwneud â'i gylch gwaith.

 

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Roedd gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion yn ymwneud â'i gylch gwaith.

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Roedd gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar y sectorau amaeth a physgodfeydd, cyflenwad bwyd a lles anifeiliaid.

 

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn parhau i fonitro is-ddeddfwriaeth yn ystod y pandemig, gan gynnwys unrhyw reoliadau’n ymwneud â COVID-19.

 

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Mae Cadeirydd y Pwyllgor ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru wedi cyfnewid gohebiaeth ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd wrth ddelio ag Argyfwng Iechyd y Cyhoedd. Cafodd y Pwyllgor ei briffio gan yr Ysgrifennydd Parhaol a chynhaliodd ddeialog ynghylch y camau a gymerwyd hyd yn hyn, o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ar 4 Mai 2020. Bydd gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn parhau i ganolbwyntio ar effaith COVID-19 ar faterion sy'n ymwneud â'i gylch gwaith.

 

Y Pwyllgor Cyllid

Roedd gwaith y Pwyllgor Cyllid yn canolbwyntio ar yr effaith ariannol a'r gefnogaeth i Gymru o ganlyniad i COVID-19.

 

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Yn 2020, cytunodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y byddai ei waith yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19. Yn ogystal â chynnal sesiynau craffu rheolaidd gyda’r Prif Weinidog, cyfarfu’r Pwyllgor hefyd i graffu ar waith y Cwnsler Cyffredinol o ran ei rôl yn cydgysylltu gwaith Llywodraeth Cymru o ailadeiladu yn dilyn y pandemig.

 

Sesiynau rhithwir (pob pwyllgor)

Roedd rhaglen dreigl o sesiynau rhith-bwyllgorau'n rhedeg ochr yn ochr â'r gweithgareddau hyn. Gellir bwrw golwg ar fanylion pa bwyllgorau a gyfarfu bron bob wythnos ar dudalen amserlen y Senedd neu ar hafan pob pwyllgor perthnasol.

 

Galwadau am dystiolaeth

Ymatebodd pwyllgorau i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol wrth iddi ddatblygu, a chyhoeddwyd galwadau pellach am dystiolaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r hafan ymgynghoriadau.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/03/2020

Dogfennau