Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2020, gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gychwyn ymchwiliad, sef Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 

Ar 24 Hydref 2019, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad yn dwyn y teitl, 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru' (pdf 6MB). Gwnaeth y Comisiwn argymhellion ar gyfer y Senedd yn benodol, gan gynnwys y dylai fod yn fwy rhagweithiol wrth graffu ar y modd y mae’r system gyfiawnder yn gweithio, ac wrth fonitro ac adolygu’r cynnydd a wneir ym maes diwygio’r system gyfiawnder.

Roedd y Pwyllgor wedi bwriadu cynnal ei ymholiad mewn dwy ran, a ar y cylch gorchwyl canlynol: 

 

Rhan 1 - Canfod y ffeithiau ac edrych tua’r dyfodol 

  • Nodi a mapio cyfrifoldebau a swyddogaethau presennol y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chraffu ar faterion cyfiawnder.
  • Nodi ac adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer ariannu materion cyfiawnder y mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt eisoes.
  • Ystyried y modd y caiff swyddogaethau cyfiawnder presennol eu gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys polisïau Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig a’r modd y maent yn rhyngweithio â’r system gweinyddu cyfiawnder;
  •  Ystyried effaith y berthynas rhwng cymhwysedd y DU a Chymru ar faterion cyfiawnder penodol a nodi’r meysydd sy’n peri pryder;
  • Ystyried sut y gallai’r Senedd fod yn fwy rhagweithiol wrth graffu ar gyfiawnder, gan gynnwys sut y gallai cyrff cyfiawnder ymgysylltu â’r Senedd. 

 

Rhan 2 - Dadansoddi sut y gallai'r system gyfiawnder weithredu'n fwy effeithiol yng Nghymru

  • Gan ddefnyddio canlyniadau Rhan 1, archwilio unrhyw feysydd sy’n peri pryder o ran y cydbwysedd rhwng pwerau cyfiawnder ac, yn unol â hynny, a ellid defnyddio dulliau mwy cydlynol a chydgysylltiedig o ddatblygu polisi cyfiawnder; 
  • Ystyried goblygiadau a chanlyniadau unrhyw gynnig posibl i ddatganoli cyfiawnder a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
  • Dysgu oddi wrth y modd y mae’r DU a deddfwrfeydd eraill yn craffu ar gyfiawnder. 

 

Roedd dechrau'r pandemig COVID-19 yn cyfyngu ar y dull a oedd yn fwriad gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, llwyddodd y Pwyllgor i gasglu tystiolaeth trwy ymgynghoriad cyhoeddus ac mewn sesiynau tystiolaeth gyda’r canlynol:  

  • y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol,  
  • Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 
  • Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr, a’r 
  • Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. 

 

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, roedd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion Senedd Cymru hefyd wedi casglu barn ymarferwyr cyfreithiol ledled Cymru. Trefnodd y Tîm gyfres o grwpiau ffocws rhithwir drwy gydol mis Medi 2020 a chynhyrchodd grynodeb (PDF 152KB) o'r themâu allweddol.

 

Mae Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor ar gyfer y Bumed Senedd yn rhoi naratif ar yr ymchwiliad ac yn nodi nifer o gasgliadau y death y Pwyllgor iddynt.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau