NDM7288 Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta

NDM7288 Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta

NDM7288 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.

2. Yn credu:

a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;

b) bod gwellhad yn bosibl;

c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.

3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.

4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.

5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.

Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant a amlinellir yn ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Medi 2019.

Datganiad ysgrifenedig - Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta Cymru - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 26 Medi 2019

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 6, ar ôl 'i sicrhau' ychwanegu 'ar frys'.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 4 Maw 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Siân Gwenllian AS