Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Ken
Skates AC, y Gweinidog Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Gwybodaeth am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
Amcan polisi’r Bil yw darparu ystod well o offer i
awdurdodau lleol i’w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau
lleol yn eu hardal, a gwella’r graddau y mae gwybodaeth am wasanaethau bysiau
ar gael.
Mae’r Bil yn ceisio diwygio’r fframwaith
deddfwriaethol sy’n ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol.
Yn benodol, mae’n darparu ar gyfer creu Cynlluniau Partneriaeth Cymru (WPS),
Cynlluniau Masnachfreinio Cymru (WFS), ac i awdurdodau lleol gynnal eu
gwasanaethau bysiau eu hunain. Byddai awdurdodau lleol yn gallu defnyddio
unrhyw un neu bob un o’r opsiynau hyn i wella gwasanaethau bysiau yn eu hardal.
Mae Cynlluniau Partneriaeth Cymru yn dod â
gweithredwyr ac awdurdodau lleol ynghyd i gynllunio a gweithredu cyfres o gamau
a gwelliannau y cytunwyd arnynt mewn rhai meysydd. Gallai hyn gynnwys
cydgysylltu o ran amserlenni, gwell gwybodaeth a gwell system docynnau,
cerbydau o ansawdd gwell, a bod awdurdod lleol yn darparu cyfleusterau ac yn
cymryd camau fel, gwell mannau aros a lonydd bysiau gorfodedig. Ni allai
gweithredwyr bysiau nad ydynt yn ymwneud â Chynlluniau Partneriaeth Cymru
ddefnyddio’r cyfleusterau gwell na defnyddio mannau aros mewn ardaloedd sydd â
chamau ar waith yn ardal y Cynllun. Gall Cynlluniau Partneriaeth Cymru gynnwys
gwasanaethau bysiau trawsffiniol. Yn yr achosion hyn, rhaid i awdurdod lleol
yng Nghymru ac awdurdod lleol yn Lloegr lunio Cynllun Partneriaeth ar y cyd.
Byddai Cynlluniau Masnachfreinio Cymru yn
caniatáu i awdurdodau lleol ddyfarnu’r hawl unigryw i weithredwyr drwy
gontractau i gynnal gwasanaethau bysiau yn ardal y fasnachfraint. Gallai
awdurdodau lleol benderfynu faint o gontractau masnachfraint y byddent am eu
gosod yn eu hardal.
Y darpariaethau yn y Bil i ganiatáu i
awdurdodau lleol gynnal eu gwasanaethau bysiau eu hunain drwy gael gwared ar
gyfyngiadau ar hyn mewn deddfwriaeth bresennol. Bydd hyn yn caniatáu i
awdurdodau lleol, gan weithio ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd, gynnal gwasanaethau
bysiau yn uniongyrchol yn eu hardaloedd. Gellid rheoli’r gwasanaethau hyn yn
fewnol neu drwy gwmni hyd braich.
Mae’r Bil hefyd yn ceisio cyflwyno gofyniad
ar weithredwyr bysiau i rannu dau fath o ddata â dwy gynulleidfa. Mae’r Bil yn
caniatáu (drwy reoliadau) i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i
weithredwyr ddarparu data am wasanaethau bysiau lleol (‘data agored’) y gellid
eu defnyddio i roi mynediad i’r cyhoedd at wybodaeth fwy cyson, dibynadwy a
chyfoes am wasanaethau bysiau. Mae’r Bil hefyd yn ceisio rhoi pŵer i
awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth, gan gynnwys am brisiau, refeniw a data o
ran teithwyr, gan weithredwyr bysiau ar lwybrau y maent wedi cynnig eu newid
neu gael gwarent arnynt.
Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm
Esboniadol cysylltiedig.
Cyfnod Presennol
Tynnwyd y Bil yn ôl |
Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o
gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw
i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
Cyflwyn o'r Bil: 16 Mawrth 2020 |
Bil
Gwasanaethau Bysiau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Adroddiad
y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: Datganiad
Bwriad Polisi - Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) |
Cyfnod 1: Pwyllgo r yn trafod yr egwyd orion cyffredi nol |
Ar 18
Mawrth 2020, trafododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei ddull
gweithredu ar gyfer Cyfnod 1. Gohiriwyd y gwaith craffu ar y Bil yn sgil y pandemig,
ac ar 1 Ebrill cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad
ysgrifenedig ar ddull y Llywodraeth o ymdrin â deddfwriaeth yng ngoleuni
COVID-19. Er na chafodd y Bil ei flaenoriaethu ar gyfer gwaith dilynol, bu'n
destun gwaith adolygu parhaus. Ar 15 Gorffennaf 2020, dywedodd Gweinidog yr
Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, sef yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y
Bil, fod y Bil yn cael ei dynnu yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.79. Tynnu'r
Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn ôl |
Gwybodaeth
gyswllt
Clerc:
Robert Donovan
Rhif ffôn:
0300 200 6565
Cyfeiriad
post:
Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddESS@senedd.cymru
Math o fusnes: Deddfwriaeth
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2020
Papurau cefndir
- Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - Geirfa Ddwyieithog PDF 83 KB
- Datganiad Bwriad Polisi - Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) PDF 568 KB
- Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - Crynodeb Gweledigaeth Bws PDF 450 KB
- Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - Adroddiad Papur Gwyn PDF 274 KB
- Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru PDF 156 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (Wedi ei gyflawni)