Tasglu’r Cymoedd

Tasglu’r Cymoedd

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Dasglu’r Cymoedd.

 

Crynodeb

Sefydlwyd Tasglu’r Cymoedd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016, a bydd yn gweithredu trwy gydol y Pumed Cynulliad, tan fis Mawrth 2021.  Fe’i sefydlwyd fel catalydd i gyflawni adfywiad a thwf cynaliadwy yng Nghymoedd y De.

 

Mae gan y Tasglu saith maes blaenoriaeth – entrepreneuriaeth a chymorth busnes; yr economi sylfaenol; tai; canolbwyntiau strategol; trafnidiaeth; Parc Rhanbarthol y Cymoedd; a chronfa arloesi Tasglu’r Cymoedd.

 

Cylch gorchwyl

  • Gwerthuso i ba raddau y mae Tasglu’r Cymoedd o fudd i gymunedau’r Cymoedd, a pherfformiad ei fentrau polisi penodol o ran sicrhau canlyniadau llwyddiannus sydd o gymorth i greu twf cynaliadwy a lleihau tlodi
  • Ystyried a yw’r Tasglu, a phrosiectau unigol, wedi targedu ymyriadau’n ddigonol mewn rhannau o’r Cymoedd lle mae eu hangen fwyaf
  • Asesu effaith y newidiadau ym mlaenoriaethau’r Tasglu a gyhoeddwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Gorffennaf 2019 ar ei effeithiolrwydd
  • Penderfynu sut mae’r Tasglu’n gweithio gyda mentrau datblygu economaidd eraill yn y Cymoedd, ac yn ychwanegu gwerth atynt
  • Asesu i ba raddau y mae’r Tasglu wedi ystyried cydraddoldeb rhywiol wrth ddatblygu ffrydiau gwaith, a sut y bydd yn mesur canlyniadau
  • Ymchwilio i ddulliau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn ei strategaeth economaidd sydd ar ddod ar gyfer Blaenau’r Cymoedd, a pha gamau neu bolisïau penodol y dylid eu cynnwys yn hyn
  • Deall pa fesurau tymor byr ychwanegol y gellid eu mabwysiadu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymunedau’r Cymoedd cyn i’r Tasglu ddod i ben ym mis Mawrth 2021
  • Ystyried sut y dylid datblygu gwaith y Tasglu wedi iddo ddod i ben ym mis Mawrth 2021, pa ffrydiau gwaith y dylai Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu, ac i ba raddau y gallai fod angen unrhyw newid mewn dull gweithredu

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2020

Ymgynghoriadau