Prosesau rhyddhau o’r ysbyty

Prosesau rhyddhau o’r ysbyty

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i’r broses ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty.  Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar oedi wrth drosglwyddo gofal, h.y. pan mae claf mewnol mewn ysbyty yn barod i symud ymlaen i gam nesaf y gofal, ond y bydd yn cael ei atal rhag gwneud hynny am un rheswm neu ragor.

 

Ym mis Ionawr 2021, trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill cyfnod y Senedd hon ac, o ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar ôl, cytunwyd y bydd yn parhau i ganolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw’r Pwyllgor yn gallu parhau â’i waith ar brosesau rhyddhau o’r ysbyty. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, yn ei adroddiad etifeddiaeth, gydag argymhelliad cryf bod ei bwyllgor olynol yn ailgychwyn yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl yn y Chweched Senedd. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.

 

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:

  • Sut mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei 'fesur' (o ran niferoedd ac effaith), yr hyn y mae'r data cenedlaethol yn ei ddangos ynghylch pam mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd, prif achosion pwysau ledled Cymru ac yn ystod y flwyddyn, a’r rhesymau posibl dros amrywiadau.
  • Beth yw'r prosesau rhyddhau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a pha mor effeithiol ydynt o ran cadw at y canllawiau SAFER ac enghreifftiau eraill o arfer da.
  • A oes seilwaith ac ymwybyddiaeth staff i sicrhau bod y prosesau hyn yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
  • Profiadau cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff o’r prosesau rhyddhau.
  • Beth sy’n rhwystro, a beth sy’n galluogi, cyfathrebu a chydweithio effeithiol rhwng cyrff iechyd, cyrff gofal iechyd a chyrff y trydydd sector.
  • Nodi atebion a mentrau rheng flaen ymarferol sy'n gweithio, gan alluogi i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn effeithiol, yn briodol ac yn amserol, a sut y caiff y rhain eu cyflwyno a'u prif ffrydio.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/02/2020

Ymgynghoriadau