P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-944 Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Mihela Erjavec, ar ôl casglu cyfanswm o 953 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:                         

​Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cymudwyr ar hyd Arfordir Gogledd Cymru wedi cael gostyngiad mewn gwasanaethau trenau yn ystod oriau brig er eu bod yn talu rhai o'r prisiau tocynnau trên mwyaf (o fesur y teithiau fesul milltir) yn y DU.

 

Mae'r toriadau hyn i wasanaethau eisoes wedi arwain at ostyngiad yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio gorsafoedd trenau Gogledd-ddwyrain Cymru, gyda mwy a mwy o gymudwyr yn gorfod gyrru, gan ychwanegu at y tagfeydd ar yr A55.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach yn bwriadu torri'r unig wasanaeth trên oriau brig gyda'r hwyr rhwng Bangor a Bae Colwyn, y Rhyl, Prestatyn a'r Fflint, sef y gwasanaeth 17:16 o Fangor. Bydd hyn yn gorfodi cymudwyr i newid trenau yng Nghyffordd Llandudno, lle y bydd yn rhaid iddynt aros am fwy nag awr am drên cyswllt.

 

Mae canslo'r gwasanaeth trên hwn yn mynd yn hollol groes i bolisi Llywodraeth Cymru ar sawl cyfrif:

 

1) Bydd yn arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy orfodi pobl oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w ceir, ar adeg o "argyfwng hinsawdd".

2) Bydd yn gwrthod mynediad i Brifysgol Bangor i'r rhai sy'n byw mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

 

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i orfodi TrC i ailystyried a sicrhau bod y gwasanaeth trenau yng Ngogledd Cymru yn ddigon aml a fforddiadwy i annog cymudwyr i ddod oddi ar y ffyrdd ac ar y trenau.

 

A person standing on a train track

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/03/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2020