Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020

Cyflwynwyd Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2020  (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 7 Ionawr 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Ionawr 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 12 Mawrth 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2020

Dogfennau