Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021

Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil yn cynnig diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 cyn iddo ddod i rym, i ddarparu rhagor o ddiogelwch i bobl sy’n rhentu eu cartrefi yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n byw yn y sector rhentu preifat.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i’w gweld yn y Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB) cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Mae'r Bil bellach yn Ddeddf. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith drwy’r Senedd

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 10 Chwefror 2020

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (PDF, 161KB), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB)

 

Datganiad y Llywydd: 10 Chwefror 2020 (PDF, 66KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 11 Chwefror 2020 (PDF, 56KB)

 

Amserlen diwygiedig ar gyfer trafod y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): 14 Gorffennaf 2020 (PDF 61KB)

 

Datganiad o Fwriad Polisi (PDF, 403KB)

 

Geirfa Ddwyieithog (PDF, 74KB)

 

Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol (PDF, 108 KB)

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ar 12 Mawrth 2020.

 

Arolwg

Yn ychwanegol at yr ymgynghoriad, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar y Bil wedi’i anelu at landlordiaid.

 

Grwpiau ffocws

Fel rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil, cynhaliwyd grwpiau ffocws rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2020 i gael safbwyntiau tenantiaid a landlordiaid ledled Cymru.

 

Nodyn cryno o’r broses ymgysylltu

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

12 Chwefror 2020

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

Preifat

Preifat

27 Chwefror 2020

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch y cyfarfod

4 Mawrth 2020

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch y cyfarfod

12 Mawrth 2020

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch y cyfarfod

20 Gorffennaf 2020

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch y cyfarfod

 

Ar 14 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes amserlen ddiwygiedig ar gyfer y gwaith o graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Roedd rhaid i’r Pwyllgor gosod adroddiad ar ei waith o graffu ar y Bil erbyn 2 Hydref 2020. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn dystiolaeth olaf ar 20 Gorffennaf, a gellir ei gwylio ar SeneddTV.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

14 Medi 2020

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Darllenwch y trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

Gosododd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad ar y Bil ar 1 Hydref 2020.

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Bil ar 2 Hydref 2020.

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Hydref 2020.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Hydref 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 9 Tachwedd 2020, o dan Reol Sefydlog 26.21, y bydd trefn y drafodaeth o ran trafodion Cyfnod 2 fel a ganlyn:

 

Adrannau 1-3; Atodlen 1; Adrannau 4-6; Atodlen 2; Adrannau 7-10; Atodlen 3; Adran 11; Atodlen 4; Adrannau 12-14; Atodlen 5; Adrannau 15-16; Atodlen 6; Adrannau 17 – 18; Teitl hir.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 13 Tachwedd 2020

Tabl Pwrpas ac Effaith – 16 Tachwedd 2020

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 20 Tachwedd 2020

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 27 Tachwedd 2020

Grwpio gwelliannau – 27 Tachwedd 2020

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd 2020.

 

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Crynodeb o’r Bil, ar ôl Cyfnod 2

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 30 Tachwedd 2020. Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2021 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2).

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 1 Chwefror 2021 (f2)

Tabl Pwrpas ac Effaith – 1 Chwefror 2021

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 2 Chwefror 2021

Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 3 Chwefror 2021

Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 10 Chwefror 2021

Grwpio gwelliannau – 10 Chwefror 2021

 

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Senedd ar y Bil ar 23 Chwefror 2021.

 

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), fel y’i pasiwyd

 

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (Saesneg yn unig), ar ran y Twrnai Cyffredinol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Saesneg yn unig) a’r Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2021

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau