NDM7211 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth sy’n deillio o Hunanladdiad
NDM7211 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth sy’n deillio o Hunanladdiad
NDM7211 Lynne
Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled
unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.
2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru
i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.
3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor
risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael
profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod
cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl hunanladdiad ledled
Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid
i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn
cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth
hunanladdiad.
Cyd-gyflwynwyr
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
David
Rees (Aberafan)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 22 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Lynne Neagle AS