Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Cyflwynwyd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 19 Rhagfyr 2019.

 

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 6 Ionawr 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Gwener 17 Ionawr 2020.

 

Ystyriaeth gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda'r Prif Weinidog ar 6 Ionawr 2020 lle bu'r Prif Weinidog yn ymateb i gwestiynau'r Aelodau am gydsyniad deddfwriaethol.

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 16 Ionawr 2020.

 

Ystyriaeth gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda'r Prif Weinidog ar 13 Ionawr 2020 lle bu'r Prif Weinidog yn ymateb i gwestiynau'r Aelodau am gydsyniad deddfwriaethol.

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 17 Ionawr 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2020

Dogfennau