Capasiti’r Senedd

Capasiti’r Senedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymchwiliad i edrych yn fanwl ar argymhelliad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad y dylid cynyddu maint y Senedd i o leiaf 80 Aelod, ac yn ddelfrydol yn agosach at 90 Aelod, drwy:

*        Nodi’r goblygiadau o ran unrhyw newidiadau perthnasol i rolau a chyfrifoldebau’r Senedd a’i Aelodau, neu’r cyd-destun cyfansoddiadol ehangach i gapasiti’r Senedd, ers i’r Panel gyflwyno’i adroddiad yn 2017;

*        Edrych yn fanwl sut y byddai unrhyw newid i faint y Senedd yn cael ei weithredu, gan gynnwys effaith bosibl cynyddu gallu’r Senedd i graffu. a’r goblygiadau ariannol a goblygiadau eraill;

*        Ar y sail y bydd maint y Senedd yn aros yn 60 tan o leiaf 2026, ystyried a oes unrhyw fesurau eraill y gellid eu mabwysiadu yn y tymor byr i sicrhau bod gan y Senedd y capasiti sydd ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau cynrychioliadol, ei swyddogaethau craffu a’i swyddogaethau deddfwriaethol.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb o'i argymhellion (PDF, 113KB).

Gweithgaredd ymgysylltu

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad rhanddeiliaid ar 6 Ionawr 2020. Cyhoeddwyd cofnod o’r materion a drafodwyd [PDF, 258KB]. Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar y cofnod o’r materion a drafodwyd rhwng 14 Chwefror 2020 a 20 Ebrill 2020.

Tystiolaeth lafar

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Comisiwn y Cynulliad

Elin Jones AS, y Llywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Anna Daniel, Comisiwn y Senedd

Matthew Richards, Comisiwn y Senedd

2 Rhagfyr 2019

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

2. Academyddion

Yr Athro Laura McAllister, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Diana Stirbu, London Metropolitan University

Dr Hannah White, Institute for Government

20 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

3. Y Bwrdd Taliadau

Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd Taliadau

20 Ionawr 2020

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau