P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol
P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a
hyfforddiant EPI-PEN gorfodol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Archie’s Allergies, ar ôl casglu cyfanswm o 172 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid oes cyfraith yn bodoli yn unman yn y DU ar
hyn o bryd sy'n cynnig addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion o oedran cynradd
ac i fyny.
Rydyn ni eisiau newid hynny! Byddai cynnig
sesiynau addysgol mewn ysgolion o fudd i blant sydd mewn perygl o anaffylacsis.
Byddai'n helpu pobl eraill i ddeall alergeddau bwyd, sef cyflwr meddygol na
fyddech yn ymwybodol o'i sgîl-effeithiau oni bai eich bod yn adnabod rhywun
sydd â'r cyflwr.
Rydym yn gobeithio y byddai cyflwyno sesiynau
addysgol ar alergeddau bwyd hefyd yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig
â nhw, yn dileu bwlio ac yn cynnig rhagor o gefnogaeth i blant sydd â'r cyflwr
hwn.
Y cyfan y mae'n ei gymryd yw un cyffyrddiad neu
un tamaid, ac, heb ddefnyddio epi pen, gallech fod yn wynebu sefyllfa drasig
iawn.
Byddai cyflwyno hyfforddiant 'epi pen ' gorfodol
hefyd yn cael gwared ar y pryder i deuluoedd sydd â rhywun ag alergeddau bwyd.
Byddai athrawon a staff ysgol yn gwybod beth yw arwyddion hanfodol adwaith
alergaidd, ac felly byddai modd iddynt sylwi ar anaffylacsis yn gynt.
Mae Archie's Allergies yn elusen newydd sy'n
cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o
alergeddau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor nad oes
unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, yn realistig, ar hyn o bryd yn sgil yr
ymatebion manwl a ddaeth i law, gan gynnwys am waith a gynlluniwyd ond a
ohiriwyd gan bandemig y Coronafeirws, a'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi
gwrthod cyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor
i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei hymgysylltiad trwy gydol y broses.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan
y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/20.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2020