P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Wedi'i gwblhau

 

P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mair Edwards, ar ôl casglu cyfanswm o 127 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at ein gwlad fel Cymru, a'r genedl fel Cymry, yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob datganiad swyddogol. Mae tarddiad y termau "Wales" a "Welsh" yn cyfeirio atom fel estroniaid a thaeogion yn ein gwlad ein hunain. Mae'n bryd i ni ddiffinio ein hunain yn hytrach na chael ein diffinio gan genedl arall - a symbol o hynny fyddai cyfeirio atom ein hunain fel Cymry a'n gwlad fel Cymru.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 06/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i gau’r ddeiseb, o gofio bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi datgan nad yw hi’n cefnogi camau i fabwysiadu polisi cyffredinol ynghylch defnyddio’r termau hyn, er y byddai’n cefnogi camau i’w defnyddio fel y bo’n briodol. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am ddwyn sylw at y mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ynys Mon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2020