Gradd-brentisiaethau
Mae Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Ymchwiliad
i Radd-brentisiaethau
Crynodeb
Ariannodd Llywodraeth Cymru radd-brentisiaethau gyntaf yn
y flwyddyn academaidd 2018/19. Mae wedi dyrannu £20 miliwn i gynllun peilot
tair blynedd, sy'n golygu bod recriwtio wedi parhau yn 2019/20 ac y dylai
barhau ar gyfer 2020/21. Yn 2018/19, sef blwyddyn gyntaf y gradd-brentisiaethau
yng Nghymru, cafwyd 155 o brentisiaid gradd o tua 60 o gyflogwyr. Ar gyfer
2019/20, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi dyrannu 585 o leoedd
newydd a ariennir. Mae CCAUC hefyd yn monitro'r rhaglen. Yn ôl data CCAUC,
roedd tua 80 y cant o garfan 2018/19 yn ddynion, ac roedd 86 y cant yn 21 oed
neu'n hŷn a recriwtiwyd yn bennaf o blith staff cyfredol yn hytrach na
staff newydd eu recriwtio. Ychydig iawn o brentisiaid y garfan gyntaf a nododd
fod ganddynt anabledd, ac mae’r data ar ethnigrwydd yn annigonol. Nododd
oddeutu 15 y cant eu bod yn siarad Cymraeg.
Mae prentisiaid gradd yn cael eu cofrestru ar
“fframweithiau” prentisiaethau gradd; mae dau fframwaith ar hyn o bryd:
Digidol, a Pheirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Nid oes cynlluniau cyhoeddus ar
gyfer mwy o fframweithiau, ac argymhellion Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
sy’n dylanwadu ar y meysydd blaenoriaeth cyfredol.
Cylch gorchwyl
Bydd y Pwyllgor yn archwilio, trafod a cheisio gwybodaeth
am yr agweddau canlynol ar brentisiaethau gradd:
·
Y
rhesymeg sy’n sail i radd-brentisiaethau
·
Y
broses a'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo cynigion gan ddarparwyr i ddarparu
gradd-brentisiaethau
·
Y
galw gan gyflogwyr a dysgwyr am y fframweithiau cyfredol, neu unrhyw alw am
fframweithiau ychwanegol, a sut mae'n cael ei reoli
·
Recriwtio
prentisiaid gradd a nodweddion personol carfan 2018/19 a charfan 2019/20 hyd yn
hyn er mwyn gwerthuso i ba raddau y maent yn adlewyrchu grwpiau sydd heb
gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch, ac uchelgeisiau cydraddoldeb
ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cydbwysedd rhwng y rhywiau
·
Ymgysylltu
cyflogwyr a phroffil y cyflogwyr sy'n defnyddio’r rhaglen radd-brentisiaethau,
gan gynnwys, os yn bosibl, y gwasgariad daearyddol
·
Y
model ar gyfer cyllido gradd-brentisiaethau, lefel y cyllido yn gyffredinol a’r
ymrwymiad sydd ei angen o ran cyllid i sicrhau y gall prentisiaid sydd eisoes
ar y cynllun peilot tair blynedd gwblhau eu haddysg
·
Barn
gynnar gan gyflogwyr, darparwyr addysg a dysgwyr am ba mor dda y mae
gradd-brentisiaethau yn gweithio a’r hyn y gellir ei ddysgu o'r cyflwyniad
ohonynt
·
Barn
am ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru ynghylch
gradd-brentisiaethau, a’r farn am eu cyflwyno, am eu heffaith ar brentisiaid
sy’n bwrw prentisiaethau nad ydynt yn raddau, ac am berthynas y naill fath o
brentisiaeth â’r llall
·
Barn
ar gyfeiriad a photensial gradd-brentisiaethau yn y dyfodol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2019
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Gradd-brentisiaethau - Tachwedd 2020
PDF 2 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 448 KB
Ymgynghoriadau
- Gradd-brentisiaethau (Wedi ei gyflawni)