NDM7206 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru Cyllid

NDM7206 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Llywodraeth Cymru Cyllid

NDM7206 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod Cymru, o ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y pen a gaiff ei gwatio yn Lloegr ar faterion datganoledig.

3. Yn croesawu'r £790 miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.

4. Yn cydnabod bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o fuddsoddiad ar y GIG gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;

b) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;

c) diystyru unrhyw godiadau mewn trethi neu drethi newydd yng Nghymru rhwng nawr a'r etholiad nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Y cytundeb rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol llywodraeth Cymru - Rhagfyr 2016

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Llywodraethau olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi llywyddu dros dlodi rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.

2. Yn credu mai dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2  ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.

Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU

Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:

a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;

b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 Ystadegau Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth 2019 (Saesneg yn unig)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 27 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS