NDM7191 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ganser Pancreatig
NDM7191 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ganser Pancreatig
NDM7191 Lynne
Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael
diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac
nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad
oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.
2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o
ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael
diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd
yn yr un flwyddyn.
3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser
cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod
y 45 mlynedd diwethaf.
4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas
(Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo
ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran
lladd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella
cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:
a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau
llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;
b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau
Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; ac
c) cymorth cyfannol, drwy gymorth deietegol a maethol
amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.
Cyd-gyflwynwyr:
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Cefnogwyr:
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewein Cymru)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 27 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd