NDM7195 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau

NDM7195 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth Cerbydau

NDM7195 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.

2.    Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:

(a)  i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â 2013 mewn perthynas â cherbydau;

(b)  i gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;

(c)   i wneud cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn gwasanaeth o fis Ionawr 2020.

3.    Yn mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.

4.    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.

Y Pwyllgor Menter a Busnes, Dyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau, Rhagfyr 2013

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.

2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.

3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.

5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru ers 2006. 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021

Angen Penderfyniad: 20 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS