P-05-923 Ydych chi'n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

P-05-923 Ydych chi'n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

Wedi'i gwblhau

 

P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mountain Movers Education Charity, ar ôl casglu cyfanswm o 512 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Nid yw'r canllawiau statudol drafft ar gyfer addysg yn y cartref yn addas at y diben. Bydd yn parhau â'r elyniaeth rhwng awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref, a hynny oherwydd yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen a'r nodau y mae am i awdurdodau lleol eu cyflawni.

 

Nid oes cefnogaeth ddilys yn cael ei darparu ar gyfer addysgwyr yn y cartref. Nid yw addysgwyr yn y cartref yn cael eu hamddiffyn, eu parchu na'u gwerthfawrogi. Nid yw'r ddogfen hon yn eu cydnabod nac yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd ddilys nac effeithiol.

 

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ymchwilio i'r rôl a'r pwysau y mae Swyddfa'r Comisiynydd Plant wedi'u rhoi ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg yn y cartref, ac i ba raddau y mae hyn wedi llywio'r canllawiau o'i gymharu â mewnbwn rhanddeiliaid yn y gymuned addysg yn y cartref.

 

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i lefel ymgysylltiad y Comisiynydd Plant â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, ac o ystyried faint o waith ymgysylltu y mae hi wedi'i wneud, pam nad yw hi wedi gwrando ar eu barn am addysg yn y cartref a'i bod yn parhau â'i hymgyrch yn erbyn addysgwyr yn y cartref.

 

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad oes mesurau yn y canllawiau hyn sy'n amddiffyn addysgwyr yn y cartref ac yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif yn eu hymddygiad mewn perthynas ag addysgwyr yn y cartref.

 

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad yw'r canllawiau'n sôn am gyfeirio at elusennau addysg yn y cartref Cymru, nac yn argymell y dylid cyfeirio atynt, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dyma'r cyrff gorau ar gyfer rhoi cymorth ac eiriolaeth i addysgwyr yn y cartref yng Nghymru.

 

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pa adborth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan randdeiliaid sylfaenol ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cynrychioli eu safbwyntiau a'u hanghenion yn deg i'r un graddau ag amcanion y Comisiynydd Plant a'r awdurdodau lleol.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Addysg na fydd y diwygiadau arfaethedig i’r canllawiau a’r rheoliadau addysg yn y cartref yn parhau yn ystod tymor y Senedd hon, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â nhw ynghylch y mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/12/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2019