NDM7167 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynd i'r Aael â Digartrefedd
NDM7167 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynd i'r Aael â Digartrefedd
NDM7167 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael
â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.
2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector
ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi:
a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl
ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a
nodwyd yn 2017;
b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru
yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;
c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75
y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar
gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol
Heriot-Watt;
4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y
Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar
digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n
gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Y
Ceidwadwyr Cymreig – Mwy na Lloches yn Unig
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i
fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn
perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi
gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth
Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys
elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les
wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar
gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector
cyhoeddus.
Grŵp
Gweithredu ar Ddigartrefedd: Adroddiad Hydref 2019
Strategaeth
ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 - 7 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn credu bod methiant holl Lywodraethau Cymru dros yr 20
mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng Nghymru yn warth cenedlaethol.
Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn credu bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch
reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru
yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd eisoes yn wael yn waeth.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
'Mae'r tueddiadau hyn wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae
hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau ymysg y rhai sy'n cysgu ar y
stryd. '
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwyntiau 4 a 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd
cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y
sector fyddai'n digwydd.
Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na chafodd angen blaenoriaethol ei ddileu'n
raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol i sicrhau llety diogel yn
ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd.
Gwelliant 10 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr
adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd
polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu
argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd
cyfrifoldeb.
Crisis
- Everybody In - How to End Homelessness in Great Britain 2018 (Saesneg
yn unig)
Gwelliant 11 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei
datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn
osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota.
Gwelliant 12 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o
fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu,
defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau
niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn
ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Gwelliant 13 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng
digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y
strydoedd.
Gwelliant 14 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu anghenion
lleol wrth ymdrin â digartrefedd.
Gwelliant 15 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bon a
brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y sector tai er mwyn mynd i'r
afael â digartrefedd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2019
Angen Penderfyniad: 23 Hyd 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS