Rhaglen waith - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r
Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb
o'i argymhellion (PDF, 113KB). |
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 18 Medi 2019 i archwilio
argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Cafodd y
Pwyllgor ei ddiddymu’n dilyn dadl yn ar ei adroddiad ar 7 Hydref 2020.
Cynigiodd y Llywydd y dylid sefydlu'r Pwyllgor yn dilyn
penderfyniad Comisiwn y Senedd ym mis Mehefin 2019 i beidio â chyflwyno
deddfwriaeth yn ystod y Pumed Senedd mewn perthynas â Cham 2 o Raglen
Diwygio'r Senedd.
Nodau y Pwyllgor oedd i:
- gydgrynhoi’r sylfaen dystiolaeth bresennol ac ychwanegu ati,
- hysbysu’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw, ac
- amlinellu trywydd ar gyfer diwygio, a hynny er mwyn llywio ystyriaeth
y pleidiau gwleidyddol o'u safbwyntiau polisi a'u maniffestos ar gyfer
etholiad y Senedd yn 2021.
Cwblhaodd y Pwyllgor yr ymchwiliadau canlynol:
Isod, ceir dogfennau eraill sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.
Math o fusnes: Trefn y trafodion
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2019
Dogfennau
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - 8 Ionawr 2020
PDF 223 KB Gweld fel HTML (1) 36 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch gwaith y pwyllgor yn sgil COVID-19 – 1 Mehefin 2020
PDF 468 KB Gweld fel HTML (2) 24 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch cynnal cyfarfod ychwanegol – 8 Gorffennaf 2020
PDF 449 KB Gweld fel HTML (3) 19 KB