P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Wedi'i gwblhau

 

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gethyn Mon Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 2,216 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei gwrthwynebiad yn ôl ac i gefnogi'r cynnig bod Network Rail yn caniatáu i Reilffordd Ganolog Ynys Môn gael ei haddasu yn llwybr amlddefnydd di-draffig 18 milltir o Amlwch i'r Gaerwen. Gan nad yw wedi cael ei defnyddio am y 26 mlynedd diwethaf, credwn na allai'r llinell gyflawni unrhyw bwrpas defnyddiol i gludo teithwyr na chludo nwyddau rhwng y Gaerwen ac Amlwch. Yn lle hynny, byddai llwybr amlddefnydd Lôn Las Môn ar agor i'w ddefnyddio gan deuluoedd, cerddwyr, rhedwyr, reidwyr ceffylau a beicwyr hamdden, gan gynnwys y rhai â gofynion mynediad i'r anabl.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Yn wahanol i siroedd cyfagos Gwynedd a Chonwy, ychydig iawn o lwybrau di-draffig sydd yna ar Ynys Môn. Er bod dau lwybr beicio cenedlaethol i'w cael ar yr ynys, ffyrdd dosbarth B yw'r rhain ar y cyfan, gydag arwyddion yn nodi eu bod at ddefnydd beicwyr ffordd profiadol yn bennaf. Mae 60 y cant o bobl nad ydynt yn beicio yn nodi ofn traffig fel rheswm dros beidio â defnyddio beic wrth deithio o le i le. Mae llwybr di-draffig fel Lôn Las Môn yn hanfodol i annog mwy o bobl i feicio at ddibenion hamdden a thrafnidiaeth. At hynny, gan fod un digwyddiad traffig ffordd bob dydd ar gyfartaledd yn cynnwys reidwyr ceffylau, byddai reidwyr ceffylau ar Ynys Môn hefyd yn elwa ar lwybr di-draffig, i ffwrdd o gerbydau sy'n symud yn gyflym ac sy'n peri perygl mawr i geffylau a'u reidwyr. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, byddai'r llwybr gwyrdd amlddefnydd yn goridor pellter hir di-draffig o dde orllewin i ogledd ddwyrain yr ynys, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gysylltu â llwybr arfordirol Ynys Môn yn ogystal â llwybrau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau eraill. Byddai'r prosiect yn arwain at fanteision economaidd i'r sector twristiaeth ar Ynys Môn hefyd. Mae hen lwybr rheilffordd y Camel Trail yng Nghernyw yn brawf o hynny a thua'r un hyd â llwybr arfaethedig Lôn Las Môn, sef 17.3 milltir. Yn 2015, gwnaeth defnyddwyr y Camel Trail wario tua £6.7 miliwn a chynhyrchu tua £13 miliwn o drosiant busnes. Gyda gordewdra, materion iechyd meddwl a lefelau diabetes math 2 yn cynyddu ar raddfa frawychus, byddai Lôn Las Môn yn caniatáu i'r cyhoedd ymarfer corff mewn amgylchedd di-draffig, i ffwrdd o allyriadau cerbydau a llygryddion, ac ar dir sy'n hygyrch i'r rheini ag anableddau ac anghenion mynediad. Byddai manteision sylweddol yn deillio o'r prosiect hwn i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, ac yn ddi-os byddent yn gwella ansawdd bywyd pawb ar Ynys Môn.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 29/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor nifer o ddiweddariadau ar y ddeiseb hon, ac yng ngoleuni’r ymatebion a ddaeth i law, gan gynnwys awydd Llywodraeth Cymru i gynnal datrysiad rheilffordd a nodwyd gan y Gweinidog a Network Rail, a’r trafodaethau parhaus ynghylch prydles y llinell ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, mae’n annhebygol y gellir cyflawni amcanion y deisebwyr.  

 

Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebwyr am eu cyfraniadau i’r broses.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/11/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Ynys Mon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2019

Dogfennau