P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru
P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru
P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng
Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Callum Rogers, ar ôl casglu cyfanswm o 685 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r
anghydraddoldeb i ben o ran mynediad at driniaeth thrombectomi strôc sy'n achub
bywydau.
Mae
thrombectomi yn driniaeth a ddefnyddir ar gyfer strôc isgemig lle caiff y
ceulad gwaed ei dynnu gyda dyfais arbennig wedi'i osod drwy gathetr. Mae
cyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi ei fanteision o ran lleihau anabledd
hirdymor (morbidrwydd), ac achub bywydau (lleihau marwolaethau). Ym mis Ebrill
2017, cytunodd y GIG yn Lloegr i ariannu thrombectomi ar y GIG, bydd yn cymryd
blynyddoedd lawer cyn y gall pob claf cymwys ei gael. Nid yw ar gael yn arferol
yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cytundebau gyda'r GIG yn Lloegr i gleifion Cymru
gael mynediad i'w gwasanaethau yn amrywiol ac yn denau.
Mae
cleifion fel Colin Rogers yn llythrennol yn marw. Roedd yn 55 oed pan fu farw.
Gwrthodwyd triniaeth iddo am ei fod yn ddydd Sul ac nid oedd cytundeb i
ganiatáu iddo gael ei anfon i Loegr. Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai wedi
cael ei achub, amcangyfrifir y gallai'r driniaeth hon helpu dros 500 o bobl yng
Nghymru. Nid ydym am i bobl y gellid eu hachub farw fel Colin, neu eu gadael ag
anableddau dwys.
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i
achub bywydau pobl yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i
ddatblygu gwasanaethau thrombectomi mecanyddol ymhellach, gan gynnwys datblygu
gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac ehangu argaeledd gwasanaethau
eraill i sicrhau eu bod ar gael 24/7.
Gan fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gyflawni’r camau hyn, daeth
y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd,
a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/11/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/10/2019