Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru

Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru

Inquiry5

 

Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddarn byr o waith i ystyried sefyllfa bresennol Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru.

Wrth graffu ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), nododd Llywodraeth Cymru fod cynlluniau ar y gweill i adolygu darpariaeth a strwythur ECEC. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ystyried datblygiadau a chwblhaodd waith dilynol ar y canlynol:

 

  • y rheoliadau a’r cynllun gweinyddol a grëwyd gan y Bil;
  • craffu'n barhaus ar y rhaglen Dechrau'n Deg, yn ogystal â’r elfen allgymorth. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad (PDF 2.13MB) ar hyn ym mis Chwefror 2018.

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg (PDF 79.7KB) a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF 80.2KB) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau mewn perthynas ag Addysg a Gofal Plant Cynnar.

Daeth y Dirprwy Weinidog i gyfarfod cyhoeddus y Pwyllgor ddydd Mercher 2 Hydref. Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd (PDF 87KB) y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog. Ar 6 Tachwedd, (PDF 632KB)  cafodd y Pwyllgor ymateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/09/2019

Dogfennau