Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

Ers i ganlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 roi pwerau eang i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfau i Gymru, mae’r cwestiwn ynghylch a ddylai Cymru ddod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o ddiddordeb a gaiff ei drafod yn gyhoeddus. Yn benodol, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ei fod yn bwriadu dechrau trafodaeth gyhoeddus ynghylch a oes angen awdurdodaeth ar wahân i Gymru. 

 

Barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw bod y datblygiadau hyn yn rhoi cyfle da i archwilio’r  agweddau technegol  o’r cwestiwn hwn ac felly wedi cytuno i gynnal ymchwiliad iddo. 

 

Ceir rhagor o wybodaeth gefndir am y datblygiadau sydd wedi arwain at farn y Pwyllgor mewn papur a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad, ac mae hwn wedi’i gynnwys isod.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2013

Y Broses Ymgynghori

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y materion penodol a ganlyn yn ogystal ag unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r Ymchwiliad:

 

  • ystyr yr ymadroddawdurdodaeth ar wahân i Gymru”;
  • y manteision posibl, y rhwystrau a’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno awdurdodaeth ar wahân i Gymru;
  • goblygiadau ymarferol awdurdodaeth ar wahân o ran y proffesiynau cyfreithiol a’r cyhoedd; a
  • gweithrediaeth awdurdodaethau bach eraill yn y DU, yn benodol y rhai sy’n defnyddio system y gyfraith gyffredin, fel Gogledd Iwerddon.

 

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 20 Chwefror 2012.

Dogfennau

Ymgynghoriadau