NDM7118 Dadl Plaid Cymru - Diwygio'r Cynulliad

NDM7118 Dadl Plaid Cymru - Diwygio'r Cynulliad

NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.

2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.

3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.

2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:

a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;

b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Senedd Sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Comisiwn Ffiniau i Gymru - Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol - Adroddiad ar Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.

2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.

Senedd sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

 

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod heriau sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru.

2. Yn galw am i ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.

3. Yn galw am unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i gael ei ariannu drwy arbedion cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.

4. Yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 10 Gorff 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS