Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham
Mae hwn yn fater lle y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio
cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn
cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Cyflwynwyd Bil
Gemau'r Gymanwlad Birmingham yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 5 Mehefin 2019.
Mae'r Bil yn ceisio ymdrin â nifer fach o feysydd y mae
angen ymateb deddfwriaethol iddynt mewn perthynas â'r paratoadau ar gyfer
Gemau'r Gymanwlad, sydd i'w cynnal yn Birmingham yn 2022.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 19
Mehefin 2019 (PDF, 70KB).
Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y
diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2019
Dogfennau