NDM7101 Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch

NDM7101 Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch

NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant arian cyhoeddus;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1.    Yn cydnabod:

a.    bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

b.    yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

2.    Yn croesawu:

a.    bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

b.    bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

c.    bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

d.    mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

3.    Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 4, dileu 'yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol' a rhoi yn ei le 'yn cynnwys amodau i fynd i'r afael â chyflogau gormodol is-ganghellorion ac uwch arweinwyr'.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.

 

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 26 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS