NDM7100 Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

NDM7100 Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

a)    iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

b)    sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac

c)    sbwriel a gwastraff plastig.

2.    Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.

3.    Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.

Datganiad -Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 26 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Y Gw. Anrh. Elin Jones AS