Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020

Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Amcan polisi’r Bil yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

 

Mae’r Bil yn ceisio’i gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt (fel y’i diffinnir yn y Bil) mewn syrcas deithiol. Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw’n perfformio neu’n cael ei arddangos. Byddai’r drosedd yn cael ei chyflawni gan y person sy’n weithredwr (fel y’i diffinnir yn y Bil) y syrcas deithiol os yw’n defnyddio neu’n caniatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt yn y syrcas deithiol. Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

 

Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid wedi’u domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys syrcasau sefydlog.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

 

Daeth Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 yn gyfraith yng Nghymru ar 7 Medi 2020.

 

Cofnod o daith y Bil drwy’r Senedd

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 8 Gorffennaf 2019

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd: 8 Gorffennaf 2019

 

Y Pwyllgor Busnes – Amserelen ar gyfer ystyried Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru

 

Llythr at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Datganiad o Fwriad Polisi   PDF 259 KB

 

Datganiad Bwriad Polisi - Cyflwyno Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru)   PDF 172 KB

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei ddull gweithredu yng Nghyfnod 1 ar 10 Gorffennaf 2019.

 

Gwnaeth y Pwyllgor galwad agored am dystiolaeth am y Bil.

 

Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau.

 

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

10 Gorffennaf 2019

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (preifat)

Preifat

Preifat

18 Gorffennaf 2019

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

18 Gorffennaf 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 18 Gorffennaf 2019

18 Medi 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

18 Medi 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 18 Medi 2019

26 Medi 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

26 Medi 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 26 Medi

2 Hydref 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

02 Hydref 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 02 Hydref

10 Hydref 2019

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

10 Hydref 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 10 Hydref

 

Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

 

21 Hydref 2019

Pwrpas y cyfarfod

 

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Trawsgrifiad

 

21 Hydref 2019 trawsgrifiad

Senedd.TV

 

Gwylio cyfarfod 21 Hydref

 

 

Bu’r Y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

 

03 Hydref 2019

Pwrpas y cyfarfod

 

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Trawsgrifiad

 

 

03 Hydref 2019 trawsgrifiad

Senedd.TV

 

 

Gwylio cyfarfod 03 Hydref

 

Adroddiadau Cyfnod 1

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Hydref 2019 ar oblygiadau ariannol y Bil.

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil (PDF, 1MB) ar 4 Rhagfyr 2019.

 

Gosododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei Adroddiad Cyfnod 1 ar 06 Rhagfyr 2019.

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 07 Ionawr 2020.

 

Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Llythyr gan y Llywydd ar benderfyniad ariannol – 15 Tachwedd

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 08 Ionawr 2020. Bydd manylion y gwelliannau a gyflwynwyd yn cael eu cyhoeddi yma.

 

Bydd ystyriaeth Cyfnod 2 yn digwydd mewn cyfarfod Pwyllgor ar 05 Chwefror 2020. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan gânt eu hystyried.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 15 Ionawr 2020

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 28 Ionawr 2020

 

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 30 Ionawr 2020

 

Grwpio Gwelliannau – 30 Ionawr 2020

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau Cymru heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2  - 05 Chwefror 2020

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 06 Chwefror 2020.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 09 Mawrth 2020

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 10 Mawrth 2020

 

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 02 Gorffennaf 2020

 

Grwpio Gwelliannau – 02 Gorffennaf 2020

 

Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 08 Gorffennaf 2020 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan gânt eu hystyried.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2020

 

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), (Heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3) – 10 Gorffennaf 2020

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Senedd y Bil ar 15 Gorffennaf 2020

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) fel y’i pasiwyd – 17 Gorffennaf 2020

 

Newidiadau Argraffu i'r Bil Anifeiliaid Gwyllt  a Syrcasau (Cymru) – 17 Gorffennaf 2020

 

 

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Cyfreithiwr Cyffredinol, ar ran y Twrnai Cyffredinol, Y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 – Awst 2020

 

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2020.

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Elizabeth Wilkinson

Rhif ffôn: 0300 200 6361

 

Cyfeiriad post:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1SN

 

Ebost: SeneddNHAMG@Senedd.Cymru

Math o fusnes: Bil

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau