P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymrus
P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymrus
P-05-892 Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cardiff People First, ar ôl
casglu 145 o lofnodion ar-lein a 423 ar bapur, sef cyfanswm o 568 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi
Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru. Mae'n rhaid i'r person hwnnw fod ag
anabledd dysgu.
Mae mwy o adroddiadau o gam-drin pobl ag
anabledd dysgu yn ymddangos yn Lloegr eto. Mae ymchwil yn dangos hefyd bod pobl
ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd anghyfartal ac yn marw hyd at 20 mlynedd
yn gynharach nag eraill. Mae'n 50 mlynedd ers i adroddiad Ysbyty Trelái ddangos
cam-drin gan arwain at gau'r sefydliadau hyn. Fel y sefydliad a sefydlwyd gan
bobl sy'n gadael Trelái, credwn ei bod hi'n bryd i ni gael rhywun i hyrwyddo
ein hawliau i ni yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi’r wybodaeth
a ddarparwyd ynghylch sut y caiff y gwaith o weithredu Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei werthuso. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau’r
ddeiseb yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod sefydlu swydd
Comisiynydd Anabledd Dysgu ar hyn o bryd, a bod y deisebwyr wedi derbyn hyn yn
flaenorol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 09/07/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/06/2019