NDM7058 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NDM7058 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NDM7058 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.

2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol.

3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.

Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 5 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS