Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad y Senedd i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Cyflwynwyd Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 1 Mai 2019.

 

Mae'r Bil yn ceisio diwygio Deddf y Cyfrifiad 1920 a Deddf y Cyfrifiad (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn dileu'r gosb am beidio ag ymateb i gwestiynau newydd yn y cyfrifiad sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 15 Mai 2019 (PDF, 69KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad (PDF, 90KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ddydd Llun 24 Mehefin 2019.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad (PDF, 94KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 24 Mehefin 2019.

 

Pleidleisiodd y Senedd i roi cydsyniad i'r Bil ar 2 Gorffennaf 2019

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019

Dogfennau