NDM7055 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr Economi
NDM7055 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr Economi
NDM7055 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial
economaidd Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
2. Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun
Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau
gwelliant sylweddol yn economi Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i
wella'r economi, gan gynnwys:
a) symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;
b) sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth
ddiwydiannol effeithiol;
c) diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau
bach a chanolig;
d) uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio
ar gyfleoedd newydd; ac
e) gwella seilwaith.
Ffyniant
i bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i
helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:
a) 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers
1999;
b) cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn
debyg bellach i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;
c) ostyngiad o dros hanner ers 1999 yn nifer y bobl o
oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d) y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau
addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson
ers datganoli;
e) y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng
Nghymru.
2. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf
cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract
Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint
rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd
Cymru gwerth £1 biliwn.
3. Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir
yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun
Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf
cynhwysol.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i
ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth
gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
5. Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng
Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r
rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau
buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i
drafod dyfodol yr economi gyda rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a
b) deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn
gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud
penderfyniadau ar wariant.
Gwelliant 3 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion
manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle
cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen allweddol o economi
Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 22 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS