NDM7002 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Prydau Ysgol Iach

NDM7002 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Prydau Ysgol Iach

NDM7002 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.

2. Yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) egluro ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu monitro; a

b) amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.

'Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi'

Bwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu'

 

Cyd-gyflwynwyr

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cefnogwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Vikki Howells (Cwm Cynon)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 15 Mai 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd