Mynediad at Fancio

Mynediad at Fancio

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Fynediad at Fancio yng Nghymru.

Crynodeb

Ymchwilio i effaith cau canghennau banc yng Nghymru ar fusnesau lleol, cwsmeriaid ac economi Cymru ac ymchwilio i’r camau y gellir eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a nodir gan y Pwyllgor.

Cylch gorchwyl

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn ystyried y pethau canlynol:

  • Y sefyllfa bresennol o ran mynediad at wasanaethau bancio yng Nghymru, gan gynnwys materion yn ymwneud â chynhwysiant ariannol a chynhwysiant digidol.
  • yr amryfal ffyrdd y mae cau canghennau a mynediad at beiriannau codi arian sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio yn gallu effeithio ar gymunedau lleol (er enghraifft yr effeithiau ar fusnes, twristiaeth, y gymdeithas, demograffeg ac adfywio).
  • Deall y broses, y manteision a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu banc cymunedol sydd â nifer o ganghennau yng Nghymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau